|

|
Mae Dere i Dorri yn gwasanaethu ystod eang o gwsmeriaid,
yn blant bach, pobl ifainc, oedolion a phensiynwyr. Daw'r cwsmeriaid
o bob man, ond yn bennaf o dde Ceredigion a gogledd Sir Gaeryfrddin.
Sefydlwyd y busnes yn 2003, ac yn sgîl datblygiad y busnes
cyflogwyd merch ifanc leol fel prentis yn y flwyddyn 2004. Cyflawnwyd
y prentisiaeth yn llwyddiannus, a phenodwyd hi yn Is-Steilydd eleni.
Penodwyd Therapydd Harddwch i ymuno â'r tîm ym mis Mai
2007, a symudodd Dere i Dorri i salon newydd mwy o faint ym mis
Awst 2007. |