Ers ei sefydlu yn 2003 mae busnes Dere i Dorri wedi
tyfu'n gyflym. Mae tri aelod o staff gan Dere i Dorri erbyn hyn,
sef Prif Steilydd, Is Steilydd a therapydd harddwch.
Oherwydd hyn fe benderfynon ni symud i salon newydd yn Awst 2007
er mwyn creu mwy o le ar gyfer y steilyddion a'r cwsmeriaid. Mae'r
salon newydd ar Stryd Fawr Llanbed gyferbyn â siop JH Williams.
|